
Mae'r Tîm Systemau Busnes Newydd yn sicrhau fod cartrefi a stadau Tai Canolbarth Cymru yn cydymffurfio gyda rheoliadau cyfredol ac yn ddiogel ar gyfer ein preswylwyr ac ymwelwyr.
Mae gennym system archwilio, gwasanaeth a chynnal a chadw gynhwysfawr sy'n cynnwys meysydd iechyd a diogelwch allweddol tebyg i ddiogelwch nwy a thrydan, systemau rheoli tân, lifftiau arbenigol a rheolaeth asbestos ac rydym yn ymroddedig i gynnal ein lefel uchel iawn o gydymffurfiaeth yn y meysydd hyn.
Rydym yn sicrhau fod trefniadau yn eu lle ar gyfer y dilynol:
• Gwasanaeth blynyddol i systemau nwy a gwresogi
• Asesiadau larymau tân a risg tân (misol)
• Offer tân yn cynnwys canfyddwyr mwg, chwistrellwyr a drysau tân (blynyddol)
• Trin carthffosiaeth (bob 6 mis)
• Profion trydanol cyfnodol (5 mlynedd)
• Lifftiau (misol)
• Offer arbenigol (6 misol)
• Silindrau heb fent a phaneli PV solar (blynyddol)
• Erialau cymunol
• Unedau gwag
• Bodlonrwydd tenantiaid (misol)
• Tystysgrifau perfformiad ynni (10 mlynedd)
• Arolygon (misol) i cynnwys hyfywedd parhaus
• Adroddiadau a thystysgrifau Safon Ansawdd Tai Cymru
Y tîm yw ceidwaid y data o'r dechrau i'r diwedd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n contractwyr i sicrhau fod gennym fynediad i wasanaethu mewn ffordd amserol sy'n sicrhau fod preswylwyr yn ddiogel yn eu cartrefi.
Cysylltwch â'r tîm ar 0300 111 3030 os oes gennych unrhyw bryderon gwasanaethu am ddiogelwch eich cartref.
Y Tîm Systemau Busnes Newydd Yw:
Ruth ProtheroeArweinydd Tîm Systemau Busnes Newydd |
Janet JonesGweinyddydd Systemau Busnes Newydd |
Diane JonesGweinyddydd Systemau Busnes Newydd |
Kath JonesGweinyddydd Systemau Busnes Newydd |
Jazmin PughGweinyddydd Systemau Busnes Newydd |
|