
Prif nod y tîm Tai Cymunedol yw "bod y gorau y gallwn fod a gwneud gwahaniaeth". Mae'r tîm yn ymroddedig iawn, gyda lles preswylwyr yn ganolog i'w holl waith. Gwnânt eu gorau glas i gael pethau'n iawn y tro cyntaf a gweithredu gydag integriti. Y nod yw bod yn onest iawn gyda chwsmeriaid o ran yr hyn y gall, na all ac na wnaiff y tîm ei wneud.
Mae gan y tîm Tai Cymunedol gyfoeth o dros 85 mlynedd rhyngddynt o brofiad o weithio mewn rheolaeth tai a gyda chymunedau.
Mae Tai Cymunedol yn gyfrifol am:
- Trefnu cyfleoedd gweld a chofrestru tenantiaid newydd.
- Cynnal ymweliadau tenantiaeth cyfnodol; ar gyfer tenantiaid newydd o fewn 12 mis cyntaf symud i'w cartref newydd a hefyd drwy gydol y denantiaeth, os oes angen.
- Ymchwilio a chytuno ar gynllun gweithredu, gyda'r person sy'n cwyno a'r person y cwynir amdano, er mwyn datrys honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Dynodi ac ymchwilio toriadau tenantiaeth heblaw ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithio gyda phreswylwyr i'w cefnogi i addasu eu hymddygiad.
- Bod y tîm arweiniol yng nghyswllt cam-drin domestig; o ran darparu hyfforddiant ar gyfer staff, gan ddefnyddio gweithdrefn gadarn pan roddir adroddiad am gam-drin domestig neu yr amheuir hynny a gwneud ein gorau i'w ddileu.
- Atgyfeirio preswylwyr at asiantaethau er mwyn cael cefnogaeth i gynnal eu tenantiaeth.
- Helpu preswylwyr i gynnal eu tenantiaeth drwy wneud cais am Daliadau Tai ar Ddisgresiwn neu daliadau o'r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn a gweithio gydag asiantaethau fel Phoenix Furniture pan nad oes gan denantiaid ddim neu fawr celfi neu ddodrefn.
- Darparu gwasanaeth rheoli stad rhagweithiol a gweithio gyda chymunedau i ddatrys problemau amgylcheddol ar stadau.
- Cefnogi cynlluniau datblygu cymunedol er mwyn gwella'r amgylchedd y mae ein preswylwyr yn byw ynddo.
- Mae "Caru eich Cymdogaeth" yn brosiect ymbarél i annog preswylwyr i gysylltu gydag eraill a'r gymdogaeth y maent yn byw ynddi.
- Cefnogi preswylwyr i ganfod datrysiad eu hunain mewn achosion yn cynnwys anghydfod rhwng cymdogion.
- Ceisio gwella stadau drwy weithio gyda'r cymunedau sy'n byw yno.
- Cydlynu gyda darparwyr cymorth parthed rheoli ein cynlluniau tai â chymorth.
- Hyrwyddo lles ein preswylwyr. Mae'r tripiau cwch camlas a drefnwn ar Gamlas Trefaldwyn mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth Heulwen yn enghraifft o hyn.
- Cefnogi preswylwyr a all fod ag anhwylder celcio i ddiogelu eu lles a'u diogelwch.
- Gweithio gyda'r Gwasanaeth Tân i gynnal gwiriadau diogelwch tân cartrefi, yn arbennig y cyfeiriadau hynny lle gall preswylydd fod yn neilltuol o agored i niwed.
- Mentora a hyfforddi preswylwyr i'w helpu i sefydlu grwpiau preswylwyr.
- Adeiladu perthynas gref ac annog gweithio partneriaeth gyda'r heddlu, adrannau awdurdodau lleol, swyddogion iechyd a darparwyr cymorth.
- Cydlynu gyda'r heddlu, adrannau awdurdodau lleol a swyddogion iechyd er mwyn datrys problemau tenantiaeth.
- Cymryd camau cyfreithiol, fel sy'n briodol, er mwyn gorfodi'r cytundeb tenantiaeth.
- Rheoli cynllun larwm cymdeithasol y Gymdeithas, yn cynnwys y gwasanaeth ymateb larwm cymunedol.
- Darparu cymorthfeydd rheolaidd yn ein cynlluniau cysgodol a lesddaliad i bobl wedi ymddeol.
- Bod y prif dîm cyswllt rhwng y Gymdeithas a phreswylwyr.
Y Tîm Tai Cymunedol yw
Sian Hopwood | Ernie Capener | Paul Wenban |
Arweinydd Tîm Tai Cymunedol | Swyddog Tai Cymunedol | Swyddog Tai Cymunedol |
Joanne Hughes | Megan Watkin | Roy McGuinness |
Swyddog Tai Cymunedol | Swyddog Tai Cymunedol | Rheolydd Cynllun Lesddaliad, yng ngofal gynllun lesddaliad yn Aberystwyth i bobl wedi ymddeol |
11 o Lanhawyr Ardal Cymunol a gyflogir yn uniongyrchol sy'n darparu gwasanaethau glanhau i'n preswylwyr.