Rydym yn is-gwmni i Grŵp Tai Canolbarth Cymru ac mae gennym fwrdd rheoli i oruchwylio gwaith yr Asiantaeth. Rydym yn aelod cyswllt o Care and Repair Cymru.
Prif nod y tîm Tai Cymunedol yw "bod y gorau y gallwn fod a gwneud gwahaniaeth". Mae'r tîm yn ymroddedig iawn, gyda lles preswylwyr yn ganolog i'w holl waith.
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn falch i ddweud ein bod yn gwneud mwy na dim ond rhentu a rheoli cartrefi. Rydym hefyd yn hoffi buddsoddi a gweithio gyda'n cwsmeriaid a chymunedau i helpu sicrhau effaith cadarnhaol ar fywydau pobl.
Y tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chymorth yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid, gan eich helpu gyda'r holl ymholiadau sydd gennych am eich tenantiaeth a'ch cartref. Nhw yw'r tîm cyntaf y byddwch yn siarad â nhw ar y ffôn ac sy'n eich cyfarch pan ddewch i'r swyddfa
Y Grŵp Gweithredol sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, ac am sicrhau y caiff y cynlluniau strategol a nodir gan y Bwrdd eu cyflawni dros gyfnod.
Caiff y Gymdeithas ei rheoli gan Fwrdd Rheoli gwirfoddol yn cynnwys cyfranddalwyr unigol a thenantiaid. Nid oes neb yn derbyn unrhyw dâl am eu gwasanaethau.
Gall y Tîm Rheoli Incwm eich helpu i ddewis y ffordd orau i chi dalu eich rhent neu ddyledion tenantiaeth arall.
Mae'r tîm Busnes Newydd yn gyfrifol am bob datblygiad adeiladu newydd a rheoli asedau a chynnal a chadw stoc y Gymdeithas.
Mae'r Tîm Systemau Busnes Newydd yn sicrhau fod cartrefi a stadau Tai Canolbarth Cymru yn cydymffurfio gyda rheoliadau cyfredol ac yn ddiogel ar gyfer ein preswylwyr ac ymwelwyr.
Mae’r Tîm Gwasanaethau Technegol yn gyfrifol am waith atgyweirio a chynnal a chadw eiddo’r Gymdeithas.