
Grŵp Tai Canolbarth Cymru - Datganiad Strategaeth Pobl
Mae Grŵp Tai Canolbarth Cymru yn anelu i sicrhau recriwtio, datblygu a chadw'r calibr gorau o staff fel y gall gyflawni amcanion unigol y sefydliad a meithrin y gallu i ddarparu profiad ardderchog i gwsmeriaid. Y nod yw bod yn gyflogwr o ddewis.
Mae'n nod gan y Grŵp ddarparu amgylchedd gwaith iach a diogel sy'n hyrwyddo lles staff. Mae perthynas agos rhwng lefelau cymhelliant staff, perfformiad sefydliad a darparu gweithle diogel ac iach.
Mae'r Grŵp yn anelu parhau i ddarparu profiad gwaith ansawdd uchel a sicrhau fod staff yn teimlo y cânt eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn cymryd rhan yng ngwaith y Grŵp. Yn bwysicach y nod yw i staff deimlo'n falch i fod yn rhan o'r Grŵp ac i gyfrannu at lwyddiant y sefydliad drwy ddarparu gwasanaeth arddrechog i gwsmeriaid. Rydym yn falch fod ein holl staff yn gwybod sut mae eu rôl yn cyfrannu at ein llwyddiant.
Mae'r Grŵp yn ymdrechu i roi amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynnal ymwybyddiaeth o faterion amrywiaeth yng nghyswllt polisïau cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth.
Mae gan y Grŵp ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac mae hyn yn cynnwys y Gymraeg fel rhan o'i Gynllun Cydraddoldeb Sengl.
Gweithio gyda ni
Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad bach, proffesiynol a chyfeillgar. Mae ein cyflogeion yn ymroddedig i wneud cartrefi ansawdd da yn fforddiadwy i fwy o bobl yn y Canolbarth.
Caiff ein gwerthoedd o Ragoriaeth, Cydraddoldeb, Cymuned a Gofalu eu hymwreiddio ym mhopeth a wnawn; cyflenwi rhagoriaeth yn ansawdd ein cartrefi a'r gwasanaethau a ddarparwn, rhoi tegwch i bawb mewn tai a chyflogaeth, canolbwyntio ar anghenion cymunedau'r Canolbarth a gwella ansawdd bywyd mwy o bobl drwy wneud ein cartrefi yn fforddiadwy a chyraeddadwy.
Darparwn amgylchedd gwaith diddorol a heriol sy'n rhoi cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. Yn ôl am hynny disgwyliwn ymrwymiad i ragoriaeth, brwdfrydedd ac awydd i ganfod datrysiadau blaengar i broblemau lleol. Croesawn bobl sydd â pharodrwydd i herio ac i wthio ffiniau a dderbynnir gyda gwir egni i ganfod ffyrdd o ddarparu gwasanaethau o ansawdd.
Yr hyn a ddywed ein cyflogeion - Ymateb o arolwg diweddar Bodlonrwydd Staff
"Drwyddi draw, rwy'n teimlo'n lwcus iawn i fod yn gweithio i Tai Canolbarth Cymru"
"Cyflogwr da iawn"
"Peidiwch newid os gwelwch yn dda! Dyma'r lle gorau i mi weithio erioed!"
"Rwy'n gwerthfawrogi'r pecyn buddion a chyfle gweithio hyblyg"
"Rwy'n meddwl eu bod yn gyflogwr da a'u bod yn gwneud eu gorau i drin cyflogeion gyda pharch ac urddas"
"Sefydliad sy'n wir yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth rhagorol"
Rolau Swydd
Gwarentir croeso cynnes a chyfeillgar i chi ym mha bynnag swydd yr ymunwch â ni.
Mae gennym ystod o rolau o fewn ein timau, sy'n cynnwys:
- Gwasanaethau Corfforaethol - Cyfathrebu, Llywodraethiant ac Adnoddau Dynol
- Cyllid - Cyllid, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Gwybodaeth Perfformiad
- Gwasanaethau Cwsmeriaid - Tai Cymunedol, Cyfranogiad Cymunedol, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheoli Incwm a Chynnal a Chadw
- Busnes Newydd - Contractau, Datblygu, Grantiau a Systemau Busnes Newydd
Buddion gweithio i Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru
- Cyflogau cystadleuol
- Gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol yn dechrau ar 23 diwrnod ac yn codi gan un diwrnod am bob blwyddyn o gyflogaeth a gwblheir hyd at uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn (pro rata ar gyfer rhan-amser)
- Cynllun pensiwn
- Cynllun iechyd preifat
- Profion llygaid rhad ac am ddim a chyfraniad tuag at sbectol ar gyfer rhai gofynion
- Talu am ffioedd aelodaeth cyrff proffesiynol, lle'n berthnasol i'r rôl
- Cyfleoedd dysgu a datblygiad proffesiynol
- Opsiwn car les ar gyfer defnyddwyr ceir hanfodol
- Ffonau symudol a chyfrifiaduron llechen ar gyfer rhai swyddi
- Parcio ar y safle
- Diodydd poeth ac oer
Gwneud cais i weithio i Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru
Gwneud cais am swydd
Gofynnir i chi lenwi'r cais mor llawn ag sydd modd. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch gan y caiff eich cais ei ystyried i ddechrau ar y wybodaeth a roddwch. Bydd y Gymdeithas yn trin unrhyw wybodaeth a roddwch yn hollol gyfrinachol. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol fod y Gymdeithas wedi cofrestru dan Ddeddf Diogelu Data 1984.